P-06-1222 Gwahardd barbeciws untro o’n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru!

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert Curtis, ar ôl casglu cyfanswm o 223 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Bob blwyddyn, mae archfarchnadoedd a siopau ar-lein yn annog pobl i brynu miloedd o farbeciws untro rhad sydd wedyn yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiofal ac anghyfrifol, gan arwain at ddifetha cynefinoedd bywyd gwyllt bregus a phwysig.

 

Dim ond drwy wahardd y nwyddau hyn yn gyfan gwbl y gallwn ni warchod ein bywyd gwyllt gwerthfawr yng Nghymru.

 

Erbyn hyn, rydym yn deall pam mae ein hucheldiroedd a’n fforestydd yn bwysig ar gyfer storio carbon a’n hamddiffyn rhag newid yn yr hinsawdd. Hefyd, mae’n rhaid i ni atal llygredd morol rhag niweidio moroedd Cymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Digon yw digon… mae’n hen bryd gwahardd barbeciws untro o draethau Cymru, yn ogystal â’n Parciau Cenedlaethol a’n Gwarchodfeydd Natur. Gyda’r argyfwng ecolegol yn gwaethygu, ni allwn fforddio anwybyddu’r mater hwn.

 

Mae’r tanau hyn yn cymryd amser maith i’w rheoli a’u diffodd. Fel gyda thanau ar y rhosydd, unwaith y bydd un darn o dir sydd ar dân wedi’i ddiffodd, gall y tân deithio o dan y ddaear ac ailgynnau mewn man arall. Caiff y tanau effaith hynod ddinistriol ar ardaloedd lleol, gan ladd bywyd gwyllt a distrywio ardaloedd anferth o brydferthwch naturiol, heb sôn am roi ein bywydau ni mewn perygl. Mae modd osgoi’r holl effeithiau hollol ddiangen hyn.

 

Caiff nifer o’n traethau mwyaf prydferth eu difrodi bob haf, gyda barbeciws crasboeth yn cael eu cynnau yn llythrennol modfeddi o dan arwyneb y tywod, gan fygwth bywyd gwyllt a phobl fregus sy’n defnyddio’r traeth… mae’n amser i ni warchod ein byd naturiol yn lle ei wylio’n llosgi!

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Bro Morgannwg

·         Canol De Cymru